Amdanom Ni
Y Gymdeithas Defaid Mynydd Gymreig - yn hyrwyddo’r brîd a ffordd o fyw
gynaladwy yn ucheldiroedd Cymru
Mae gan y gymdeithas dros 400 o aelodau sy’n ffermio mewn rhai o ardaloedd anoddaf
Cymru ble mae’r hinsawdd a’r tirwedd yn golygu fod yn rhaid cadw defaid go arbennig i
wrthsefyll yr hinsawdd anodd yma. Y defaid hynny ydi’r rhai sy’n rhan o frid y Ddafad
Mynydd Cymreig, brid sydd a’I hanes yn mynd yn ôi I’r Canol Oesoedd ond sydd mor
berthnasol I’r presennol a’r dyfodol ag a bu erioed. Yn anghymar yn ei chynefin naturiol,
mae hefyd yn gallu cyfranu lawr gwlad ble mae ei rhinweddau cynhenid yn golygu y gall
fod I fydd i ffermwyr lawr gwlad hefyd.