Rhinweddau
Erys rhinwedau sylfaenol y Ddafad Fynydd Gymreig yr un mor berthnasol i
ofynion amaethyddiaeth yr unfed ganrif ar hugain ag a fu ers cenedlaethau.
Mae’r brid yn arglwyddiaethu yn ei chartref traddodiadol gyda’i chaledwch
eithriadol a’i gallu i oroesi o dan amgylchiadau anodd yn golygu y gall ffynnu ble
buasai bridiau eraill yn trengu.
Mae defaid mynydd yn borwyr rhagorol, yn ddarbodus, llaethog ac yn famau da
tros ben, yn amddiffynnol o’u hepil ac yn wyna yn hawdd, boed allan neu dan
dô. Genir yr ŵyn gyda gorchudd dda i’w galluogi i oroesi, maent yn fywiog o’r
cychwyn heb angen llawer o fwydo ychwanegol, gan dyfu fwyaf ar laeth y fam a
phorfa naturiol ucheldir Cymru.