Cyfansoddiad
1. Cymdeithas Defaid Mynydd Cymreig – Adran Fynydd.
Yr enw swyddogol yw ‘Cymdeithas Defaid Mynydd Cymreig – Adran Fynydd’.
2. Nod ac Amcan
Nod ac amcan Cymdeithas Defaid Mynydd Cymreig – Adran Fynydd yw:
I gynnal ac hyrwyddo’r brid, ei aelodau, bridwyr a’r gymdeithas
3. Aelodaeth
Mae’r aelodaeth yn agored i rhywun sydd:
•
Yn ffermio diadell Fynydd Gymreig
•
Yn cefnogi noda ac amcan y gymdeithas
•
Rhaid i ffermwyr sy’n gwerthu hyrddod yn arwerthiannau’r gymdeithas pasio arolwg diadell ar y fferm.
Bydd aelodaeth yn cychwyn cyn gynted ag y bydd y ffurflen aelodaeth a’r taliad blynyddol cyntaf wedi dod i law.
£30 yw’r ffi aelodaeth ac mae hwn i’w dalu yn flynyddol gan bob aelod ar y 1af o Ionawr drwy orchymyn sefydlog.
Bydd yr Ysgrifenydd a Swyddog Datblygu yn gyfrifol am yr rhestr aelodaeth.
Terfynu bod yn aelod
I derfynu’r aelodaeth gall aelod nodi eu bwriad i wneud hyn drwy yrru yn ysgrifenedig i’r Ysgrifennydd a Swyddog Datblygu.
Bydd yr ysgrifennydd yn cysylltu ag unrhyw aelod nad yw wedi talu ei ffi aelodaeth am flwyddyn. Os na fydd taliad yn cyrraedd ar ôl hyn yna bydd yr
ysgrifennydd yn terfynu ei aelodaeth.
4. Cyfleoedd Cyfartal
Ni fydd Cymdeithas Defaid Mynydd Cymreig yn gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, tarddiad ethnig neu genedlaethol rwydd, rhywioldeb, anabledd cred
grefyddol neu wleidyddol, statws priodasol nac oedran.
5. Swyddogion a Phwyllgorau
Bydd penderfyniadau ynglŷn a gwaith y gymdeithas yn cael ei benderfynu gan ‘Y Pwyllgor Gwaith’. Byddent yn cyfarfod fel yr angen a ddim llai na pedair
gwaith y flwyddyn.
Bydd pob sir (Arfon, Ceredigion, Dinbych, Meirionnydd and Trefaldwyn) gyda’r hawl i yrru 8 aelod i’r pwyllgor gwaith.
Mae’r rôl y swyddogion fel a ganlyn;
•
Cadeirydd, fydd yn cadeirio’r cyfarfod blynyddol a’r pwyllgorau gwaith am 2 flynedd yn olynol. (Bydd y gadair yn cael ei phasio o amgylch pob sir pob
dwy flynedd)
•
Is-Gadeirydd a fydd yn cadeirio pe byddai’r Cadeirydd ddim yn bresennol.
•
Ysgrifennydd a Swyddog Datblygu fydd yn gyfrifol am drefnu’r cyfarfodydd, gyrru gohebiaeth i’r aelodau, sicrhau trefn ar gyllid y gymdeithas a’r rhestr
aelodaeth.
Mae’r pwyllgorau yn agored i unrhyw aelod sydd am fynychu, am siarad ond ni fydd modd iddynt bleidleisio.
6. Cyfarfodydd
6.1. Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol
Bydd Cyfarfod Cyffredinol yn cael ei gynnal o fewn pymtheg mis i’r un diwethaf (rhan amlaf ym mis Chwefror).
Hysbysir pob aelod yn ysgrifenedig o leiaf 2 wythnos cyn dyddiad y cyfarfod, gan nodi’r lleoliad, y dyddiad a’r amser.
Y cworwm ar gyfer y cyfarfod fydd 20 aelod.
Yn y cyfarfod bydd:
•
Bydd y cadeirydd yn cyflwyno adroddiad o waith Cymdeithas Defaid Mynydd Cymreig – Adran Fynydd dros y flwyddyn diwethaf.
•
Bydd yr ysgrifennydd yn cyflwyno cyfrifon Cymdeithas Defaid Mynydd Cymreig – Adran Fynydd ar gyfer y flwyddyn blaenorol.
•
Trafodir unrhyw cynigion a gyflwynwyd i’r ysgrifennydd oleiaf 7 diwrnod cyn y cyfarfod.
6.2 Cyfarfod Cyffredinol Arbennig.
Bydd yr Ysgrifennydd yn galw Cyfarfod Cyffredinol Arbennig ar gais mwyafrif y pwyllgor neu oleiaf wyth aelod arall yn rhoi cais ysgrifenedig i’r Cadeirydd
neu’r ysgrifenydd yn nodi’r rheswm dros eu cais.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal o fewn 3 mis i’r cais.
Hysbysir pob aelod yn ysgrifenedig o leiaf 2 wythnos cyn dyddiad y cyfarfod, gan nodi’r lleoliad, y dyddiad a’r amser drwy e-bost, ffon neu lythyr.
Y cworwm ar gyfer y cyfarfod fydd 20 aelod.
6.3 Pwyllgor Gwaith
Bydd pwyllgor gwaith yn cael ei alw gan y Cadeirydd neu’r Ysgrifennydd a bydd yr aelodau yn derbyn nodyn hysbysu oeliaf 7 diwrnod cyn y cyfarfod.
Y cworwm ar gyfer y pwyllgor gwaith fydd pump aelod (1 o bob sir).
7. Rheolau Gweithdrefn ar gyfer cyfarfodydd
Bydd pob cwestiwn/cais sy’n codi mewn unrhyw gyfarfod yn cael ei drafod yn agored a bydd y cyfarfod yn ceisio dod o hyd i ateb cyffredin y gall pawb sy’n
bresennol gytuno iddo.
Os na ellir dod i dir cyffredin cymerir pleidlais a bydd mwyafrif syml o'r aelodau sy’n bresennol yn gwneud penderfyniad. Os yw nifer y pleidleisiau a
fwriwyd ar bod ochr yn gyfartal bydd gan cadeirydd y cyfarfod bleidlais ychwanegol.
Bydd yr Ysgrifennydd a Swyddog Datblygu yn gyfrifol am gadw cofnodion.
8. Cyfrifon
Bydd gan y gymdeithas gyfrif banc a fydd yn cael ei reoli gan yr Ysgrifennydd a Swyddog Datblygu. Y swyddog yma fydd y prif lofnodydd. Ni fydd
llofnodyddion yn cael bod yn perthyn nac yn byw yn yr un adeilad.
Holl daliadau i gael eu arwyddo gan un llofnodydd.
•
Ar gyfer sieciau dim ond un llofnod fydd angen.
•
Mae gan yr Ysgrifenydd a Swyddog Datblygu yr hawl i ddefnyddio dulliau bancio ar y ffon ac ar y we.
Cofnodion incwm a gwariant yn cael eu cadw gan yr Ysgrifennydd a’r Swyddog Datblygu a rhoddi’r datganiad ariannol ym mhob cyfarfod cyffredinol
blynyddol.
Dim ond i hyrwyddo nodau’r grwp, fel y nodi’r yn eitem dau o’r cyfansoddiad hwn, y dylid defnyddio’r holl arian a godi’r gan neu ar ran Cymdeithas Defaid
Mynydd Cymreig – Adran Fynydd ac ni ddylid ei wario heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith.
9. Addasiadau i’r cyfansoddiad
Dim ond yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol neu cyfarfod cyffredinol arbennig gellir gwneud newidiadau i’r cyfansoddiad.
Rhaid i unrhyw gynnig i ddiwygio’r cyfansoddiad gael ei gyflwyno i’r ysgrifennydd yn ysgrifenedig ac mae’n rhaid iddo gael ei cylchredeg i’r aelodau cyn y
cyfarfod.
Bydd unrhyw gynnig i ddiwygio’r cyfansoddiad yn gofyn am fwyafrif o dwy ran o dair o’r rhai sy’n bresennol ac sydd a hawl i bleidleisio.
10. Diddymu
Os yw'r cyfarfod, trwy fwyafrif syml, yn benderfynu ei bod yn angenrheidiol i gau’r grŵp, rhaid galw cyfarfod cyffredinol arbennig i wneud hynny. Unig
fusnes y cyfarfod hwn fydd i ddiddymu’r grŵp.
Os cytunir i ddiddymu’r grŵp, bydd yr holl arian sy’n weddill ac asedau eraill, unwaith y bydd dyledion wedi eu talu, yn cael ei rhoi i elusennau lleol. Bydd yr
elusennau yn cael eu penderfynu yn y cyfarfod arbennig hwn.
Cafodd y cyfansoddiad hwn ei gytuno gan aelodau Cymdeithas Defaid Mynydd Cymreig – Adran Fynydd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar:-
Dyddiad ………/…………/……………. Enw a safle o fewn y Gymdeithas ………………………………………….
Arwydd …………………………………………. Enw a safle o fewn y Gymdeithas ………………………………………….
Arwydd………………………………………….