Cynhelir arwerthiannau canghennog sirol hyrddod o’r brid yn ystod yr hydref yn
flynyddol gyda’r prif arwerthiannau y gymdeithas yn Nolgellau, Llanrwst, Bala a
Croesoswallt. Mae ambell arwerthiant yn cael eu cynnal hefyd ym Mryncir a Gaerwen.
Ym mis Medi ceir arwerthiannau defaid magu fydd yn debyg o gynhyrchu ŵyn am o
leiaf dri thymor arall, ŵyn fydd yn cynhyrchu cig blasus a safonol. Mae gan lawer o
fridwyr eu hoffterau eu hunain wrth fridio Defaid Mynydd Cymreig tra’n cadw o fewn
rhinweddau a safonau’r brid. Mae hyn yn arwain at amrywiaeth ehangach yn y math o
ddafad a hwrdd sydd ar y farchnad, gall y prynwr ddewis y math sydd fwyaf buddiol
I’w diadell. Mae ffermwyr wedi cael oes o fwynhad a boddhad o fridio’r brid arbennig
a thraddodiadol hyn. Mae’r brid, y gymdeithas a’r arwerthiannau hydref yn ran bwysig
o ddiwydiant amaeth cefn gwlad cymru.
Arwerthiannau 2021
Cafwyd blwyddyn llewyrchus iawn yn arwerthiannau 2021 gyda EL & ML Evans,
Grugor Isaf, Bylchau yn gwerthu hwrdd am 23,000gns. Cewch luniau ac adroddiadau
marchnad llawn ar ein tudalen facebook.